Real Estate

Cymdeithas Cymru-Ariannin

Croeso

Cafodd Cymdeithas Cymru-Ariannin ei sefydlu yn 1939 fel “Cymdeithas Cymry Ariannin” gan rai a oedd â chysylltiad â’r Wladfa Gymreig yn Chubut er mwyn bod yn ddolen gyswllt rhwng y ddwy wlad. Newidiwyd yr enw i’r un presennol yng nghyfarfod blynyddol 1999 i adlewyrchu aelodaeth a gweithgareddau’r Gymdeithas heddiw.

Daw’r cyfan o’n hincwm oddi wrth gyfraniadau ein haelodau, sy’n awyddus i gefnogi’r ddolen gyswllt bwysig rhwng Cymru a’r Wladfa. Y Pwyllgor Gwaith sy’n llywio’r Gymdeithas a’i gweithgareddau.

Mae’r cyswllt rhwng yr Ariannin a Chymru wedi parhau am ddegawdau ac yn sicr bu’r ddwy wlad ar eu hennill. Byddwn yn parhau i fod yn ddolen gyswllt bwysig ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Ymhlith ein gweithgareddau mae:

  • Noddi a chyfrannu tuag at gynlluniau cyfnewid i athrawon, gweinidogion a phobl ifanc rhwng Cymru a’r Ariannin. Mae’r Gymdeithas yn aelod o Bwyllgor Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut.
  •  Rhoi cymorth ymarferol i’r rhai o’r Wladfa sydd yn dymuno dod i Gymru i ehangu eu gorwelion a gloywi eu Cymraeg.

  • Noddi cystadleuaeth flynyddol (ers Eisteddfod Caerdydd 1978) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin. 
  • Cyfrannu at adnoddau addysgol ar gyfer ysgolion dwyieithog Chubut.
  • Hyrwyddo’r Gymdeithas yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol.
  • Dathlu Gŵyl y Glaniad yn flynyddol yng Nghymru yn ystod y dydd Sadwrn agosaf i’r 28ain Gorffennaf sef y diwrnod y glaniodd y Cymry cyntaf ym Mhorth Madryn ar 28 Gorffennaf 1865. Mwy yma.
  • Gwobrwyo Ysgoloriaeth Michael D Jones yn flynyddol a rheoli Cronfa Mari a Pryderi.  
  • Darparu a chyhoeddi llyfrau i gryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy wlad. Mwy yma.