
Hysbyseb ar-lein 2024
Dethlir Gŵyl y Glaniad yn flynyddol ar Orffennaf yr 28ain, sef y dyddiad y glaniodd y Cymry cyntaf ym Mhorth Madryn ar fwrdd llong y Mimosa nôl ym 1865. Mae’n ŵyl gyhoeddus yn Chubut yn yr Ariannin, a bydd pobl yn mynd i gael te Cymreig mewn capeli a neuaddau a byddant yn cynnal cyngherddau i ddathlu’r digwyddiad. Caiff yr ŵyl ei threfnu yng Nghymru gan Gymdeithas Cymru – Ariannin, a hynny ar y dydd Sadwrn agosaf i’r 28ain o Orffennaf. Yn y Bala y dethlid fel arfer ond bu rhai yn Aberystwyth hefyd. Dyma restr o 2005 ymlaen.
Gŵyl y Glaniad yng Nghymru:
- 2005 Y Bala
- 2006 Merthyr Tudful
- 2007 Aberystwyth
- 2008 Y Bala
- 2009 Aberteifi
- 2010 Bangor
- 2011 Sain Ffagan, Caerdydd
- 2012 Dinbych
- 2013 Aberteifi
- 2014 Y Bala
- 2015 Caernarfon
- 2016 Aberystwyth
- 2017 Aberteifi
- 2018 Y Bala
- 2019 Llanbedr Pont Steffan
- 2020 Nefyn – canslwyd
- 2021 Trwy gyfrwng ‘zoom’
- 2022 Nefyn
- 2023 Llanarthne
- 2024 Aberteifi
- 2025 Caerdydd
Clipiau fideo o Gymru ac o’r Ariannin:
Gaiman, 2015
Ysgol y Cwm, Trevelin 2016
Y Bala, Cymru, 2018
Gŵyl y Glaniad, Llambed, 2019
Dathlu ym Muenos Aires, 2019
Gaiman, 2020
Ysgol yr Hendre, Trelew, 2021
Ysgol y Cwm, Trevelin, 2021
Elvira Austin, 2021
Ysgol Gymraeg y Gaiman, 2022
Nefyn, Cymru, 2022
Adnoddau o Nefyn yn 2022