Ysgoloriaeth Michael D Jones

Ysgoloriaeth Michael D Jones, Cymdeithas Cymru-Ariannin

Cyflwyniad

Fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant geni Michael D Jones yn 2022, sefydlwyd ysgoloriaeth flynyddol gan Gymdeithas Cymru-Ariannin yn arbennig i drigolion y Wladfa.

Mae’r ysgoloriaeth ar agor i unigolion dros 18 oed sy’n byw yn nhalaith Chubut, yr Ariannin ac sy’n bwriadu mynd nôl i’r dalaith yn dilyn cyfnod yr ysgoloriaeth.

Bwriad yr ysgoloriaeth yw galluogi unigolyn sy’n byw yn Chubut ddod i Gymru i wella ac i ddatblygu ei sgiliau mewn unrhyw faes ymarferol cydnabyddedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n bosibl gwneud cais i ddatblygu sgiliau mewn meysydd megis cerddoriaeth, celf, dawns, coginio, twristiaeth, ffotograffiaeth ac ati. Nid bwriad yr ysgoloriaeth yma yw galluogi unigolion ddod i Gymru i astudio’r Gymraeg fel pwnc.

Yr ysgoloriaeth

Cynigir un ysgoloriaeth yn flynyddol, gwerth £3000. Bydd y Gymdeithas yn gwneud trefniant gyda’r ymgeisydd llwyddiannus i drosglwyddo’r arian mewn ffordd gyfleus.

Nid oes amser penodol wedi’i bennu i gyfnod yr ysgoloriaeth, ond yn ymarferol mae’n debyg mai oddeutu mis/chwe wythnos fydd y cyfnod a dreulir yng Nghymru.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau holl gyfnod yr ysgoloriaeth o fewn 12 mis i ddyddiad y cynnig. Dim ond o dan amgylchiadau arbennig iawn y bydd yn bosib addasu’r rheol hon.

*Ni fydd ysgoloriaeth ar gael yn 2025*. Derbynnir ceisiadau yn flynyddol i’r ysgoloriaeth rhwng Mai 28 a diwrnod Gŵyl y Glaniad,  sef Gorffennaf 28. Cynhelir sgyrsiau gyda’r ymgeiswyr ar y rhestr fer a hysbysu’r ymgeisydd llwyddiannus ym mis Awst.

Am ffurflen gais, cysylltwch â’r Gymdeithas ar y cyfeiriad e-bost yma: [email protected]

 

Santi Meza gydag Aled Hughes, Radio Cymru, 2023

Cinthia Zamarreño yn Arad Goch yn 2024

Ariela Gibbon yng Nghymru yn 2025