Dyma wybodaeth am ysgolion lle caiff y Gymraeg ei haddysgu mewn ysgolion yn Chubut.
Ysgol Gymraeg Y Gaiman, Gaiman

Agorodd Ysgol Feithrin y Gaiman ei drysau yn 1993. Tyfodd ar hyd y blynyddoedd ac oherwydd y cynnydd yn y galw am addysg Gymraeg, yn 2013 cafodd statws cyfreithiol gan y llywodraeth i gynnal dosbarthiadau meithrin 4 a 5 oed. Yn 2015 daeth yn ysgol gynradd ddwyieithog ac yn y flwyddyn honno sefydlwyd Blwyddyn 1 gyntaf Ysgol Gymraeg y Gaiman. Mae dros 150 o blant yn mynychu’r ysgol erbyn hyn (2024) ac mae’r plant yn cael addysg ddwyieithog bob dydd. Yn 2017 fe sefydlwyd prosiect ar y cyd rhwng cyfeillion o Gymru a’r Wladfa sy’n trefnu i athrawon o Gymru fynd draw i’r Wladfa am flwyddyn academaidd i gynorthwyo a chynnal dosbarthiadau Cymraeg, yn ychwanegol at gefnogaeth Prosiect yr Iaith. Erbyn hyn mae’r ysgol wedi symud o’r adeilad bach yng nghanol y dref i hen adeilad yr ysgol feithrin Sbaeneg, ac mae gwaith adeiladu parhaol yn digwydd i ehangu’r ysgol drwy godi ystafelloedd newydd, diolch i roddion caredigion YGY
Carol yr Ŵyl 2017
Cân: Fesul dydd mae diolch
Hen Wlad Fy Nhadau
Gŵyl y Glaniad, 2020


Ysgol yr Hendre, Trelew


Agorwyd Ysgol yr Hendre, Trelew ar 6ed o Fawrth 2006 gyda 22 o ddisgyblion ar Stryd Moreno ynghanol y ddinas. Bellach, mae dros 160 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol ac yn derbyn addysg ddwyieithog Gymraeg-Sbaeneg. Caiff yr adeilad gwreiddiol yn Moreno ei ddefnyddio ar gyfer y babanod ond mae’r Adran Iau ar safle Rivadavia, ar gyrion Trelew ar dir Capel Moreia. Mae’r ysgol yn parhau i ffynnu ac yn 2026, byddant yn dathlu 20 mlynedd ers agor yr ysgol.
Neges Ewyllys Da, Urdd Gobaith Cymru 2020
Eisteddfod y Bobl Ifanc – dawnsio gwerin
Eisteddfod y Bobl Ifanc, canu’n Gymraeg
Diwrnod Shwmae su’mae? 2014
Eisteddfod Mimosa, Porth Madryn
Ysgol y Cwm, Trevelin


Mae Ysgol y Cwm yn ysgol ddwyieithog Gymraeg-Sbaeneg yn Trevelin, yn yr Andes. Agorwyd ei drysau am y tro cyntaf ar Fawrth y 9fed, 2016 ar dir Capel Bethel ac erbyn Heddiw (2024) mae dros 140 o blant yn mynychu’r ysgol gan gynnwys 14 yn derbyn addysg uwchradd. Yn 2024, bydd y garfan a fydd yn gadael yn 2023 yn cael y cyfle i barhau â’u haddysg Gymraeg yn adran uwchradd newydd sbon yr ysgol. Hon fydd ysgol uwchradd Gymraeg-Sbaeneg gyntaf yn ardal yr Andes. Y gobaith yw y bydd adeilad yr ysgol uwchradd yn barod erbyn 2027.
Cyflwyniad i’r ysgol (is-deitlau Saesneg)
Cyflwyniad i’r ysgol (is-deitlau Saesneg)
Gŵyl y Glaniad, 2020
Gŵyl y Glaniad, 2021

Ysgol 24, Esquel

Dechreuodd gweithdy Cymraeg yn Ysgol 24, Esquel yn 2008. Ers hynny, mae tua 20 o blant yn cael cyfle pob blwyddyn i ddysgu mwy am yr iaith a’r diwylliant Cymraeg. Mae’r gweithdy yn cael ei gynnal unwaith yr wythnos am awr fel pob gweithdy arall yn yr ysgol. Y gwahaniaeth rhwng y gweithdai eraill yw bod y gweithdy Cymraeg yn ddewisol ac mae’n rhaid i’r plant gofrestru cyn mynychu. Maen nhw’n dal i ddewis dysgu mwy am yr iaith. Byddan nhw’n cymryd rhan mewn Eisteddfodau lleol fel Eisteddfod Trevelin ac Eisteddfod Ysgolion yn Nhrevelin hefyd.


Ysgol Bryn Gwyn, ger Gaiman

Dechreuodd gwersi Cymraeg yn Ysgol Bryn Gwyn nôl yn 1999 dan ofal Gabriel Restucha, yn ystod cyfnod pan oedd Laura Jones de Henry yn brifathrawes yno. Yr adeg hynny Cymdeithas Dewi Sant, Trelew oedd yn talu am y gwersi Cymraeg ond ers 2015, Llywodraeth Chubut sy’n eu hariannu. Caiff dros 200 o blant (rhwng 4 ac 11 oed) awr yn wythnosol o wersi Cymraeg bob blwyddyn. Ysgol gynradd ydy Ysgol Bryn Gwyn ac mae’n un o’r rhai cyntaf yn y Wladfa. Enw’r ysgol ydy Ysgol Abraham Matthews, er cof am un o arloeswyr mawr y Wladfa.

Juan Davies yn Ysgol Bryn Gwyn
Coleg Camwy, Gaiman


Ysgol Uwchradd gyntaf y Gaiman
Dechreuwyd trafod sefydlu ysgol ganolraddol ar gyfer ieuenctid y Wladfa yn 1898. Yn 1904 ffurfiwyd Cymdeithas Addysg Ganolraddol y Camwy ac erbyn 1906 roedd Ysgol Ganolraddol y Camwy wedi’i sefydlu. Hon oedd yr ysgol ‘uwchradd’ gyntaf yn y Wladfa ac fe ellir dweud hefyd mai dyma ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf y byd! Caewyd yr ysgol yn 1947, er bod yr adeilad yn parhau i gael ei ddefnyddio gan y gymuned. Ar ddechrau’r 1960au sefydlwyd Cymdeithas Addysg a Diwylliant y Camwy ac yn 1963 ail-agorwyd yr ysgol fel ysgol uwchradd cyfrwng Sbaeneg – Colegio Camwy. Yn 1995 penderfynwyd cynnal gwersi Cymraeg swyddogol yng Ngholeg Camwy; erbyn hyn mae nifer fawr o ddisgyblion y coleg wedi mynychu un o ysgolion cynradd dwyieithog y Wladfa ac felly cynhelir gwersi Cymraeg ar ddwy lefel. Bydd nifer o’r disgyblion yn dewis sefyll arholiadau CBAC Dysgu Cymraeg Cymru hefyd cyn cwblhau eu haddysg yn y coleg. Yng Ngholeg Camwy mae Llyfrgell Eluned Morgan – y casgliad helaethaf o lyfrau Cymraeg yn y Wladfa – ac yn yr un ystafell mae desg dderw o Gymru a dderbyniodd yr Ysgol Ganolraddol yn rhodd gan David Lloyd George ar ôl ei sefydlu.
Dathliadau Canmlwyddiant Coleg Camwy
Disgyblion 2024 yn dod i Gymru