
Ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023, lansiwyd gwasanaeth gwirfoddol newydd ym Moduan. Gwasanaeth fydd hwn fydd yn gweithredu fel dolen-gyswllt rhwng Cymru â’r Ariannin i gydlynu cludo nwyddau o Gymru i’r Wladfa pan fydd pobl yn mynd draw yno ar eu gwyliau ac yn cludo adnoddau yn eu bagiau teithio.

Liz Saville-Roberts, Eduardo Marinho a Rhys Llewelyn
Un fu’n lansio’r gwasanaeth yma fu Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Meirion-Dwyfor yn San Steffan (fu ar ymweliad â Phatagonia ddwywaith yn 2017) ac Eduardo Marinho o Borth Madryn oedd yng Nghymru am y tro cyntaf. Mae Eduardo yn gweithio yn Amgueddfa’r Glanio ym Mhorth Madryn a dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2017. Nid oes gan Eduardo gysylltiadau gyda Chymru ond daeth yn ymwybodol iawn o hanes y Cymry cyntaf yn cyrraedd Y Wladfa ym Mhorth Madryn yn 1865, tran’n gweithio yn yr amgueddfa ym Mhorth Madryn.
Lluniodd Gymdeithas Gymreig Porth Madryn logo newydd ar gyfer y ddolen hon fydd yn cael ei alw’n “Y Blwch”. Dyma ddywedodd Silvina Garzonio-Jones, Llywydd Cymdeithas Gymreig Porth Madryn. “Mi fydd hwn yn wasanaeth gwerthfawr iawn i ni. Rydan ni’n awyddus iawn i bobl sy’n teithio i’r Wladfa i gludo nwyddau ar ein cyfer gan fod postio mor ddrud ac i gludo nwyddau o’r Ariannin i Gymru hefyd.”
Mi fydd rhagor o wybodaeth am y cynllun cyffrous yma yn cael ei rannu yma ac ar dudalen Facebook Cymdeithas Cymru – Ariannin. Y bwriad yw creu rhestr newydd yn flynyddol a’u rhannu gyda grwpiau fydd yn mynd i’r Wladfa o gwmpas amser Eisteddfod y Wladfa. Gellir cludo’r nwyddau i’r ysgolion neu i’r canolfannau isod neu i gartrefi unigolion.
CYFEIRIADAU CANOLFANNAU O BWYS

Tŷ Capel Bethel, Casa de la Capilla Bethel, Trevelin (9203), Chubut
Cymdeithas Dewi Sant, Trelew, Stryd San Martin 88, Trelew (9100), Chubut
Cymdeithas Dewi Sant, Comodoro Rivadavia, Stryd Sabino Freile 945, Comodoro Rivadavia (9000), Chubut
Casa Toschke, Stryd Domecq García 241, Porth Madryn (9120), Chubut

Canolfan Hazel Charles Evans, Rivadavia 1065, Esquel (9200), Chubut
Cymdeithas Gymreig Esquel
Coleg Camwy, Stryd Michael D. Jones 490, Gaiman (9105), Chubut
Tŷ Camwy, 452 Stryd Michael D. Jones, Gaiman (9105), Chubut

Tŷ Camwy
DRWS
O goed y paith, a’u hiaith iach – y’i codwyd,
un cadarn ei linach,
a daw bechgyn y Bwthyn Bach
eto i’w agor yn lletach.
Iwan Llwyd. 25:11:2004, Y Gaiman
Cyhoeddwyd gyda chaniatâd Nia Llwyd.


Cyflwynodd bechgyn y Bwthyn Bach ddrws newydd i Dŷ Camwy-, lleoliad llawer o ddosbarthiadau Cymraeg y Gaiman.