Menter Iaith Patagonia

Sefydlwyd Menter Iaith Patagonia ym mis Ebrill 2008 i gefnogi’r Cynllun Dysgu Cymraeg. Cytunodd British Council Cymru i ariannu cynllun i anfon dau Swyddog Menter am flwyddyn i’r Wladfa. Cafwyd nawdd gan Gwmni Nos Da o Gaerdydd hefyd. Y teimlad oedd bod angen mwy o gyfleoedd cymdeithasol er mwyn i’r iaith gael ei defnyddio y tu allan i’r gwersi.

Beth ydy’r amcanion?

  • Rhoi cyfleoedd i gymdeithasu drwy’r Gymraeg.
  • Cynnig cyfleoedd i unigolion o Gymru wneud gwaith gwirfoddol yn y Wladfa efo’r Prosiect yr Iaith Gymraeg ac efo’r Fenter Iaith.
  • Magu cysylltiadau, datblygu cyfleoedd sy’n cryfhau’r Gymraeg.

Dros gyfnod o 11 blynedd bu swyddogion yn gweithio fel swyddogion Menter Iaith Patagonia gan weithio’n agos gyda’r athrawon Cymraeg oedd yn rhan o’r Cynllun Dysgu Cymraeg. Yn anffodus, cafwyd toriadau cyllidol ac mae’r Cynllun swyddogol Menter Iaith Patagonia o dan adain British Council Cymru wedi dod i ben yn 2019, er bod athrawon yn dal i gael eu hannog i drefnu gweithgareddau cymdeithasol hefyd. Ers hynny, mae’r athrawon Cymraeg wedi parhau i drefnu digwyddiadau cymdeithasol yn enw Menter Iaith Patagonia a’u hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol:

Lois William a Gruffudd Madoc-Jones, Ionawr 2025

Yn 2025, ariannodd Cymdeithas Cymru – Ariannin ddwy swydd Swyddog Datblygu, Menter Iaith yn y Wladfa i ganolbwyntio ar greu ac arwain ystod eang o weithgareddau ieithyddol, diwylliannol ac ymarferol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion trwy gyfrwng y Gymraeg.

Teithiau’r Urdd i’r Wladfa

Taith Patagonia 2013

Taith Patagonia 2013 – cân

Taith Patagonia 2019 – Esquel