Hanes Y Wladfa

Model o’r Mimosa yn y Maritime Museum, Lerpwl

Yn y flwyddyn 1865, hwyliodd dros gant a hanner o Gymry, yn wŷr, gwragedd a phlant, o Lerpwl i wlad newydd ddiffaith yn Ne America. Rhan o batrwm ymfudo mawr y ganrif ddiwethaf ond un oedd hwn ac aethon nhw yno i osgoi tlodi a gormes landlordiaid yn ogystal ag i gael yr hawl i fyw, addoli ac addysgu yn eu hiaith eu hunain – y Gymraeg. Pobl galed a phenderfynol oedd y Cymry hyn a hwyliodd ar long y Mimosa, ac er iddynt gyrraedd gwlad ddiffaith, ddi-annedd heb na chanolfan na chymdeithas barod ar eu cyfer, trwy chwys a llafur llwyddon nhw i greu cymdeithas newydd yno. Troesant y tir diffaith yn ardd a’i throsglwyddo i’w disgynyddion sydd hyd heddiw yn byw yn y rhan honno o’r Ariannin a elwir Patagonia.

Chubut

Sefydlwyd Porth Madryn yn y Bae Newydd gan y gwladfawyr; Rawson, Gaiman, Trelew a Dolavon yn y dyffryn; a Trevelin ac Esquel yn yr Andes. Mae llawer o’u disgynyddion hefyd yn byw Comodoro Rivadavia (tref fwyaf y dalaith); yn Colonia Sarmiento – a llawer o daleithiau eraill ledled yr Ariannin. Gwnaethant greu cymunedau Cymreig ffyniannus, lle’r oedd y Gymraeg yn amlwg; mewn cydweithrediad â Llywodraeth yr Ariannin, gan gyd-fyw’n heddychlon â’r brodorion – yr unig enghraifft o wladychu di-drais yn hanes cyfandir America.

Erbyn heddiw, dethlir Gŵyl y Glaniad ar Orffennaf 28ain bob blwyddyn ar hyd ac ar led Patagonia a thu hwnt i goffáu’r glaniad cyntaf un. Cynhelir Eisteddfod Y Wladfa yn flynyddol (mis Hydref) hefyd yn Nhrelew a cheir pobl o bob oed a chefndir yn cystadlu mewn cystadlaethau canu, adrodd a dawnsio a llu o gystadlaethau eraill. Nid dim ond un Eisteddfod sydd yn y Wladfa heddiw. Yn ystod y flwyddyn cynhelir nifer o eisteddfodau bach a mawr mewn gwahanol ardaloedd.

Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth British Council (Cymru), Cymdeithas Cymru-Ariannin, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn noddi Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut, gan anfon athrawon i ddysgu Cymraeg yn ogystal ag i hyfforddi’r tiwtoriaid lleol. Mae llawer o fynd a dod rhwng Cymru a’r Ariannin bob blwyddyn, boed yn deithiau er pleser pur neu ar ysgoloriaethau i gynyddu sgiliau – nid yn unig sgiliau ieithyddol ond llawer o rai eraill megis sgiliau artistig, addysgol, gwledig a diwylliannol …cerddorol, diwylliannol a dawns. Mae’r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia yn parhau’n gryf.

Cofgolofn, Lerpwl, 2015

Yn 2015, cafwyd digwyddiadau celfyddydol a dathliadau megis cyngherddau, rhaglenni dogfen a pherfformiadau theatr o ddwy ochr i fôr Iwerydd i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig – penod unigryw yn hanes Cymru a’r Ariannin.  Ers y dathliadau mae mwy o ddiddordeb nag erioed yn y Gymraeg a gyda thair ysgol gynradd ddwyieithog Sbaeneg-Cymraeg hynod boblogaidd, parhad darparaieth Gymraeg yng Ngholeg Camwy yn y Gaiman ac Ysgol Uwchradd Y Cwm, Trevelin wrthi yn cael ei sefydlu, bydd cenhedlaeth newydd yn sicrhau parhad a gobaith i ddyfodol yr iaith yn Y Wladfa ym Mhatagonia.

 

Ymfudwyr i’r Wladfa

Ymfudodd nifer o bobl o siroedd Cymru i’r Wladfa, ac y mae’r dolenni isod yn rhoi gwybodaeth am rai ohonynt.