Eisteddfodau

Rhaglen Eisteddfod Fach, Trelew, 2000

Yn ôl y sôn, cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf erioed yn Y Wladfa ar ddydd Nadolig 1865 yn Rawson – pum mis wedi i’r fintai gyntaf gyrraedd tir Patagonia ar fwrdd Y Mimosa.

Erbyn heddiw, mae pedair prif eisteddfod yn cael eu cynnal yn flynyddol yno. Mae pob un yn adlewyrchu bywyd pob dydd Y Wladfa yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol gyda chystadlaethau llefaru, canu, cerddorol, dawnsio a llenyddol yn Gymraeg ac yn Sbaeneg. Ceir hefyd cystadlaethau ffotograffiaeth; coginio a chelf yn nifer o’r eisteddfodau.

Erbyn heddiw, gellir gwylio ffrydio byw o rai o’r eisteddfodau. Caiff dolenni’r ffrydio eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfodau yn agos at ddyddiau’r eisteddfodau.

Eisteddfod Trevelin – Mai

Sefydlwyd Eisteddfod Trevelin yn 1977 a chaiff ei chynnal dros ddau ddiwrnod gyda chystadlaethau ar gyfer pob oed o blant ifancaf oed ysgol hyd yr hynaf yn y cymunedau yn Yr Andes a thu hwnt. Caiff y Gymanfa Ganu ei chynnal ar y dydd Sul.

Eisteddfod Mimosa, Porth Madryn – Mehefin

Wedi dechrau cynllunio ar gyfer Eisteddfod Mimosa yn 2004, cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf erioed yn 2006. Eisteddfod undydd yw hon.

Eisteddfod y Bobl Ifanc (Eisteddfod de la Juventud, Gaiman) – Medi

Cynhaliwyd Eisteddfod y Bobl Ifanc am y tro cyntaf ym 1929 ond yn dilyn marwolaeth ddisymwth Evan Thomas, (golygydd “Yr Eisteddfodwr” ac hefyd Y Drafod”) a fu farw’n 34 oed, bu saib. Ail ddechreuwyd cynnal Eisteddfod y Bobl Ifanc adeg y Canmlwyddiant yn 1965. 

Eisteddfod y Wladfa (Eisteddfod del Chubut, Trelew) – Hydref

Mae Gorsedd Y Wladfa yn rhan bwysig o Eisteddfod Y Wladfa. Mae aelodau’r Orsedd yn ymgynnull ar y dydd Iau cyn i’r cystadlu ddechrau ger meini’r Orsedd yn y Gaiman. Bydd aelodau newydd o’r Orsedd yn cael eu derbyn mewn seremoni arbennig wrth y maen llog a Chylch yr Orsedd. Mae aelodau’r Orsedd yn cymryd rhan ym mhrif seremonïau’r Eisteddfod gyda Llywydd yr Orsedd yn arwain y digwyddiadau yn debyg iawn i’r Archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

 

Gŵyl pedwar diwrnod yw Eisteddfod Y Wladfa gyda chystadlu yn digwydd ar y prynhawn a nos Wener ac yna drwy’r dydd ar y dydd Sadwrn. Yn Nhrelew mae’r holl gystadlu yn digwydd. Ar y dydd Sul cynhelir Cymanfa Ganu yng nghapel Bethel, Gaiman. Bob yn ail flwyddyn, mae hawl gan gystadleuwyr o Gymru / tu hwnt i’r Ariannin i gystadlu am Gadair Eisteddfod Y Wladfa.