
Cymdeithas Cymru-Ariannin 1939-2014’ (gol. Elvey MacDonald)
Noddwyd cystadleuaeth flynyddol, ers Eisteddfod Caerdydd 1978, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Ariannin. Cyhoeddwyd dau ddetholiad o’r cynnyrch ‘Atgofion o Batagonia’; gol. R. Bryn Williams (Gwasg Gomer, 1980) a ‘Byw ym Mhatagonia’; gol. Guto Roberts a Marian Elias Roberts (Gwasg Gwynedd, 1993). Mae’r ddau lyfr allan o brint.
Cyhoeddwyd ‘Agor y ffenestri : cyfrol o lenyddiaeth y Wladfa er y flwyddyn 1975’; gol. CathrinWilliams gan y Gymdeithas yn 2001 a ‘Bywyd yn y Wladfa – detholiad o gynnyrch 1978’ (Gwasg y Bwthyn) ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r cyffiniau 2009.
Cyhoeddodd y Gymdeithas hefyd:
- ‘Cymdeithas Cymru-Ariannin 1939-1989’ yn 1990
- ‘Cymdeithas Cymru-Ariannin 1939-2014’ (gol. Elvey MacDonald) yn 2014
- Eirionedd Baskerville ‘Cydymaith i’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia’. Cymdeithas Cymru-Ariannin, 2014.
- Eirionedd Baskerville ‘Companion to the Welsh Settlement in Patagonia’. Cymdeithas Cymru-Ariannin, 2014.