Cwestiynau Cyffredinol

Ysgol yr Hendre, Trelew

Pryd mae’r flwyddyn academaidd yn cychwyn?

Bydd y flwyddyn yn dechrau ym mis Mawrth ac yn parhau tan fis Gorffennaf (pan fydd pythefnos o wyliau) ac wedyn yn mynd o fis Gorffennaf tan fis Rhagfyr. Bydd dydd gŵyl bob mis ac mae’r dydd Iau a dydd Gwener yn wyliau adeg Y Pasg. Does dim gwyliau hanner tymor.

Tulipanes Patagonia, Trevelin

Sut fydd y tywydd yn y Wladfa? 

Cofiwch mai yn hemisffêr y de mae Patagonia / Y Wladfa: Rhagfyr; Ionawr; Chwefror yw misoedd yr haf. Mawrth; Ebrill; Mai yw’r hydref. Mehefin; Gorffennaf; Awst yw’r gaeaf. Medi; Hydref a Thachwedd yw’r gwanwyn.

Gall y tywydd fod yn eithafol: poeth iawn ac yn sych yn yr haf, oer iawn yn y gaeaf. Mae’r Andes yn llawer oerach na Dyffryn Camwy. Yn yr haf mae’r tymheredd yn gallu cyrraedd 30 gradd ond yn yr Andes mae’r tymheredd yn syrthio gyda’r nos i 10 gradd neu lai. Yn y gaeaf, mae’r Dyffryn yn tueddu i fod yn sychach gyda’r tymheredd rhwng 12 gradd a phwynt rhewi.

Yn yr Andes, mae’n gallu cyrraedd 5 gradd o dan sero gyda’r nos a 5 gradd yn ystod y dydd yn y gaeaf. Mae’r gwynt yn aml yn gwneud iddi deimlo’n oerach hefyd ac mae’n gallu newid yn sydyn o un pen i’r llall felly haenau amdani wrth wisgo! Pwynt arall i’w ystyried ydy cryfder yr haul – mae’n llawer cryfach nag yn Ewrop felly mae gwisgo eli gyda lefel uchel o amddiffyniad yn bwysig os ydych chi y tu allan am gyfnod.

Yn ystod yr haf hefyd mae’r mosgitos bach yn bla, felly cofiwch wisgo eli pryfed os yn mynd allan gyda’r nos. (Enw’r math poblogaidd sydd i’w gael yn y siopau yw OFF!).

Beth am arian?

Mae digonedd o dyllau yn y wal ac felly mae’n bosib tynnu pres yn ddigon hawdd ac mae llawer o siopau mwy yn derbyn cardiau debit a chredyd. Yr unig anfantais ydy bod y banciau yn yr Ariannin yn codi i chi dynnu pres ac mae’r banciau ym Mhrydain hefyd felly rydych chi’n talu ddwywaith. Mae’n werth cael cerdyn wrth law rhag ofn bod rhywbeth yn digwydd i un. Dim ond y siopau mawr sy’n derbyn doleri. Mae llawer yn mynd i’r Ariannin gyda doleri Americanaidd ac yn eu cyfnewid ar ôl cyrraedd i Pesos. Gallwch eu cyfnewid gyda phobl leol neu mewn llefydd y ‘blue doller’ (answyddogol) ym Muenos Aires. Dyma wefan ddefnyddiol all eich helpu i wybod beth yw gwerth doleri Americanaidd (marchnad y ‘blue doller’) mewn Pesos yr Ariannin: https://cuex.com/en/usd-ars_pa Petaech yn cyfnewid eich doleri mewn llefydd swyddogol mi all eu gwerth (mewn Pesos) fod yn wahanol i werth answyddogol y ‘blue doller’.

Ffordd arall o gael gafael ar Pesos ydi’r Western Union. Bydd angen agor cyfrif ar-lein gyda Western Union (www.westernunion.com) yn gyntaf, cyn teithio i’r Ariannin. Bydd eich cyfrif Western Union wedi ei gysylltu â’ch cyfrif banc neu gerdyn debyd neu credyd. Mae Western Union yn codi ffi, sy’n dibynnu ar faint o arian sy’n cael ei archebu – £7 yw cost archebu gwerth £100 o Pesos, er enghraifft.

Bydd modd archebu Pesos drwy App neu wefan Western Union, a’u casglu o siop gornel neu ‘kiosko’ yn yr Ariannin sy’n arddangos yr arwydd Western Union. Nid pob siop Western Union sy’n derbyn trosglwyddiadau rhyngwladol, ac mae cael gafael ar y Pesos hefyd yn dibynnu ar argaeledd arian parod – fel arfer, mae’n well galw heibio’n hwyrach yn y prynhawn. Bydd angen dangos copi o’ch pasport a’r rhif tracio Western Union (rhif MTCN) er mwyn derbyn y Pesos.

Cymdeithasu yn La Barra, Esquel

Pryd fydd llefydd ar agor? 

Mae’r mwyafrif o ysgolion yn dechrau am 8y.b. ac yn gorffen am hanner dydd neu 1y.p. Wedyn, mae ail shifft yn y prynhawn o 1y.p. tan 4y.p. neu 5y.p, felly mae plant yn mynd i’r naill neu’r llall. Mae banciau, swyddfeydd post a’r cyngor ar agor o 8 tan 1 yn unig. Mae gweddill y siopau fel arfer yn cau rhwng 12.30/1.00y.p. a 4.30/5.00 i gael siesta ac wedyn yn agor eto tan 8.30 neu 9.00. Yr eithriad ydy’r archfarchnadoedd mawr sydd yn aros ar agor gydol y dydd.

Milanesa

Beth am fwyd?

Mae Archentwyr yn bwyta’n syml ond yn dda. Does dim prydau parod mewn paced yn yr archfarchnad felly mae pobl yn coginio pethau cartref. Brecwast ydy mate a bisgedi, medialunas (croissants) neu facturas (fel Danish pastries). Wedyn mae pobl yn mynd adre i ginio am hanner dydd neu 1 o’r gloch ac yn bwyta rhywbeth sylweddol – milanesa (cig neu gyw iâr mewn briwsion bara fel arfer wedi’i ffrïo), pastas, tarten, cyw iâr gyda salad neu datws.

Yn y prynhawn, mae pobl yn cael te tua 4 neu 5 – bisgedi neu frechdan a mwy o mate neu de achos mae rhaid aros tan o leiaf 9y.h. cyn cael swper!

Mae swper hefyd yn sylweddol fel cinio. Mae cig yr Ariannin ymhlith y gorau yn y byd ac mae pawb yn manteisio ar hyn! Os dydych chi ddim yn bwyta cig, byddwch chi’n bwyta llawer o basta a pitsa. Ac wrth gwrs, mae gwin coch Malbéc yn boblogaidd ac yn dda.

Bwydydd traddodiadol i’w blasu:

Ar achlysuron teuluol neu arbennig bydd asado yn cael ei baratoi – oen neu fochyn cyfan yn cael ei rostio’n araf dros dân agored.  Ar achlysuron mwy arferol bydd darnau o gigoedd gwahanol yn cael eu coginio ar y parilla – tân tebyg i farbeciw.

Ar Fai 25ain i ddathlu Chwyldro’r Ariannin bydd stiw traddodiadol o’r enw Locro yn cael ei goginio yn gymunedol mewn crochan. Mae’n cynnwys cig eidion neu borc gyda chorizo, llysiau ŷd melys a treip.

Empanadas

Os am fwyd sydyn prynwch empanadas – pocedi toes wedi eu pobi neu ffrïo sydd wedi eu llenwi yn draddodiadol gyda chig, caws a ham neu lysiau.

Fe sylwch fod jam llaeth neu dulce de leche yn cael ei ddefnyddio mewn llawer o doesenni melys, teisennau a phwdinau.  Mae fel saws caramel trwchus melys iawn,  ac mae potyn ohono yn anrheg hawdd i fynd adref i’ch teulu!

Bisgedi melys yw alfajores – tebyg i frechdan ‘shortbread’ meddal gyda haenen o jam llaeth yn y canol a chnau coco wedi eu malu o gwmpas y tu allan.

Plas y Coed, Gaiman

Mae mynd allan i un o’r tai te Cymreig yn rhywbeth y dylai pob teithiwr i’r Wladfa ei wneud! Fel arfer mae’n cynnwys llawer o deisennau melys cartref fydd yn cael ei weini gyda phaned o de Cymreig o debot traddodiadol. Byddwch yn mwynhau bwyta bara menyn a jam ffrwyth cartref, ac amrywiaeth o deisennau traddodiadol – teisen hufen, teisen ddu (tebyg i fara brith), teisen afal (neu ffrwyth tymhorol arall), teisen gyda jam llaeth, sgon a teisen gri (pice ar y maen).  Os na fyddwch chi’n gallu bwyta pob dim gallwch gario’r gweddill adref mewn bocs!

Yfed mate

Beth ydi mate?

Diod boblogaidd ar draws De Amerig wedi’i wneud o ddail sych chwerw. Rhaid rhoi’r yerba– y dail- mewn mate – y cwpan – a rhoi dŵr poeth ond dim dŵr berwedig ar ei ben.

Mae’n cael ei yfed drwy’r bombilla – gwelltyn arian/o fetel – ac mae’n rhywbeth cymdeithasol iawn achos mae pawb yn rhannu’r un cwpan a’r un gwelltyn! Unwaith rydych chi wedi gorffen ei yfed, byddwch yn ei roi nôl i’r cebador – y person sy’n gwneud y ddiod – ac maen nhw’n rhoi mwy o ddŵr ar ben y dail cyn ei basio i’r person nesaf.

Caiff hyn ei ail-adrodd tan bod y ddiod yn wan iawn neu bod y dŵr yn rhy oer neu bod pawb wedi cael digon!

Beth am bostio?

Yn anffodus dydy’r post ddim yn ddibynadwy iawn ac mae nifer wedi colli parseli. Mae postio llythyr neu gerdyn post i Gymru yn eitha drud.

Yr Hen Bost, Gaiman

Ffonio 

Mae’n bosib ffonio rhai ffonau symudol o Gymru. Y côd ydy 00 54 9 wedyn y rhif lleol o flaen y rhif personol  – 280 am y Dyffryn neu 2945 am yr Andes. I alw Cymru o’r Ariannin y côd ydy 00 44 a’r côd ardal heb y ‘0’.

Ffordd haws a llai costus ydy defnyddio Whatsapp neu negesydd Facebook. Mae’n bosib newid cerdyn SIM y rhan fwyaf o ffonau symudol o Brydain i gael SIM yn yr Ariannin. Bydd llawer fydd ar wyliau yn yr Ariannin yn diffodd ‘data roaming’ ar eu ffôn clyfar ac yn cysylltu gyda phobl drwy wifi am ddim mewn llefydd fel gwestai neu ganolfannau siopau.

Beth petawn i angen meddyg neu ddeintydd?

Mae’n bosib mynd at y doctor yn yr ysbyty a fyddan nhw ddim yn codi arnoch ond rhaid disgwyl dipyn o amser. Mae’n bosib hefyd mynd at ddoctor preifat a bydd eich yswiriant teithio’n talu.

 

Sut mae teithio o gwmpas y Wladfa?

Hysbyseb ar-lein (gwiriwch amserlenni cyfredol)

Does dim trenau ar gael yn Chubut, ond mae bysiau yn mynd i’r rhan fwyaf o drefi. O Drelew mae gwasanaeth rheolaidd lleol yn mynd o’r brif orsaf (wrth y llyn) i Borth Madryn, Rawson, Gaiman a Tir Halen. Hefyd, mae modd cael bws ar draws y paith i’r Andes yn ddyddiol, ac ar siwrneiau pellach i ddinasoedd eraill yn yr Ariannin. O Esquel mae gwasanaeth rheolaidd i Drevelin, ar draws y paith i’r Dyffryn, ac i’r gogledd neu’r de ar hyd y prif ffyrdd.

Byddwch angen cerdyn bws SUBE ( yr un un â ddefnyddir ym Muenos Aires) wedi ei lwytho gydag arian o’r orsaf neu siop gyfagos er mwyn talu am siwrne, ond mae’n debyg bydd rhywun yn fodlon talu gyda’u cerdyn a chymryd arian parod gennych yn gyfnewid neu wrth gwrs gallwch ddal tacsi neu ‘remis’ o ganol tref neu o orsaf bws.