Y Cymro ar-lein, 29 Mehefin 2017
Papur bro Dyffryn Camwy yw Clecs Camwy a lansiwyd yn 2011 gan Lois Dafydd, Swyddog Menter Patagonia.
Mae’n llawn o newyddion diweddaraf yr ardal, pytiau o hanes, geirfa Cymraeg a Sbaeneg, ryseitiau, lluniau a phosau i blant ac oedolion. Câi ei gyhoeddi yn fisol yn ystod 2011 a 2012, gydag ambell rifyn arbennig ers hynny.
Meddai Lois wrth lansio’r rhifyn cyntaf:
“Gobeithio fod y papur yn cynnwys rhywbeth sydd at ddant pawb o bob oed, boed yn siaradwyr Cymraeg o’r crud, yn siaradwyr ail-iaith eu yn ddechreuwyr pur.
Mae cnewyllyn cryf o siaradwyr Cymraeg yn bodoli yn Nyffryn Camwy a’r Andes, a diddordeb cynyddol yn yr iaith. Mae hyn yn anhygoel ac ystyried fod bron i ganrif a hanner o flynyddoedd ers i’r Mimosa angori ym Mhorth Madryn.
Felly mae angen sicrhau fod amryw o gyfleoedd i bobl allu defnyddio ac ymestyn eu Cymraeg, gyda gwaith yr ysgolion a’r dosbarthiadau Cymraeg eisoes yn amhrisiadwy, yn ogystal â’r amryw weithgareddau cydeithasol a’r eisteddfodau sy’n cael eu cynnal yma trwy gydol y flwyddyn.
Dwi’n gobeithio y bydd Clecs Camwy hefyd yn gyfrwng i gynorthwyo ym mharhad y Gymraeg yn y Wladfa.”
Mai 2011: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Mai-2011.pdf
Mehefin 2011: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Mehefin-2011.pdf
Gorffennaf 2011: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Gorffennaf-2011.pdf
Awst 2011: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Awst-2011.pdf
Medi 2011: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Medi-2011.pdf
Hydref 2011: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Hydref-2011.pdf
Tachwedd 2011: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Tachwedd-2011.pdf
Rhagfyr 2011: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Rhagfyr-2011.pdf
Mawrth 2012: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Mawrth-2012.pdf
Ebrill 2012: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Ebrill-2012.pdf
Mai 2012: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Mai-2012.pdf
Mehefin 2012: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Mehefin-2012.pdf
Gorffennaf 2012: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Gorffennaf-2012.pdf
Awst 2012: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Awst-2012.pdf
Medi 2012: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Medi-2012.pdf
Hydref 2012: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Hydref-2012.pdf
Tachwedd 2012: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Tachwedd-2012.pdf
Rhagfyr 2012: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Rhagfyr-2012.pdf
Hydref 2017: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Hydref-2017.pdf
Tachwedd 2018: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Tachwedd-2018.pdf
Gorffennaf 2019: https://cymruariannin.cymru/wp-content/uploads/2025/02/Clecs-Camwy-Gorffennaf-2019.pdf
Tachwedd 2019: Clecs Camwy Tachwedd 2019.pdf
Medi 2025: Clecs Camwy (Gaeaf 25) ar wefan Bro360
