
Rebeca White, Lois William a Gruffddd Madoc-Jones
Swyddogion Datblygu yn y Wladfa
Yn ystod 2025 gwnaeth Cymdeithas Cymru-Ariannin noddi dau Swyddog Datblygu’r Gymraeg i gydlynu a threfnu gweithgareddau i hybu’r Gymraeg yn y Wladfa.
Daw’r nawdd o Gronfa Mari a Pryderi sydd wedi ei glustnodi ar gyfer datblygu’r Gymraeg yn y capeli a’r gymdeithas yn y Wladfa.
Yn wahanol i’r athrawon sy’n mynd o Gymru i ddysgu yn yr ysgolion neu gynnal gwersi ffurfiol i oedolion, nod y swyddogion yw canolbwyntio ar greu ac arwain ystod eang o weithgareddau fydd yn annog a chynorthwyo pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd ac yn gymdeithasol.
Mae bwriad i gynnig cyfleoedd o’r math yma eto yn y blynyddoedd sydd i ddod ar gyfer datblygu’r Gymraeg a gweithio gyda’r capeli. Gallwch nodi eich diddordeb yn y cyfleon drwy gysylltu gyda’r ysgrifennydd. Bydd unrhyw gyfle hefyd yn cael ei hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Capel Bethel, Gaiman