
Cyn-athrawon yng Ngŵyl y Glaniad yn Llanathne, 2023
Pam bod Cynllun Dysgu Cymraeg yn y Wladfa?
Ar ôl i ymchwil gael ei wneud yn Nyffryn Camwy yn y 70au roedd teimlad bod angen help i gadw’r iaith yn fyw ym Mhatagonia ac ym 1996 dechreuwyd trafodaethau rhwng bobl y Wladfa oedd yn gweithio i gadw’r iaith a’r diwylliant a phobl yng Nghymru fyddai’n gallu cefnogi’r bobl draw. Dechreuodd y Cynllun yn swyddogol ym 1997 ar ôl i rai blynyddoedd o ddibynnu ar ymroddiad gwirfoddolwyr i hyrwyddo’r iaith.
Pwy sy’n mynd i Batagonia i ddysgu gyda’r Cynllun?
Mae hysbysebu bob blwyddyn am athrawon neu diwtoriaid gyda’r sgiliau angenrheidiol i allu ymuno â thimau dysgu ym Mhatagonia a rhoi hwb i’r gwaith sy’n cael ei wneud yn barod.
Faint o bobl sy’n dysgu Cymraeg trwy’r Cynllun?
Yn y flwyddyn 2019 cafwyd y niferoedd uchaf o ddysgwyr yn hanes y Cynllun, 1411 o bobl, plant, pobl ifanc ac oedolion.

Lois, Luned ac Esyllt, Tŷ Gwyn y Gaiman 2004
Beth yn union mae’r Cynllun Dysgu Cymraeg yn ei wneud ym Mhatagonia?
- Hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg yn nhalaith Chubut ers 1997
- Anfon tri athro o Gymru i Batagonia bob blwyddyn
- Cefnogi dysgu’r iaith yn y tair ysgol gynradd Sbaeneg- Cymraeg
- Cefnogi dysgu’r iaith i arddegau yng Ngholeg Camwy, Gaiman ac Ysgol y Cwm, Trevelin
- Cefnogi dysgu’r iaith i oedolion ym mhob rhan o’r dalaith
- Cefnogi achlysuron cymdeithasol er mwyn hybu defnydd cymdeithasol o’r iaith
- Cynnig ysgoloriaethau a rhoi cyfleoedd i ymweld â Chymru i fynychu cyrsiau a gweithgareddau Cymraeg
Pwy sy’n rheoli’r Cynllun?
Caiff y Cynllun ei weinyddu gan British Council Cymru mewn cydweithrediad â Phwyllgor yr Iaith Gymraeg sy’n cynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru, British Council Cymru, Cymdeithas Cymru – Ariannin, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Oes ysgolion dwyieithog ym Mhatagonia?
Os hoffech ddysgu mwy am ddatblygiad addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion yn y Wladfa, cliciwch yma. Un peth sy’n sicr: ni fyddai’r ysgolion yn bodoli oni bai am y gefnogaeth maent yn ei dderbyn gan y Cynllun a’i athrawon.
Pam mynd i weithio i’r Wladfa, Patagonia?
Dyma eiriau gan ddysgwyr sydd wedi bod ar gyrsiau gydag athrawon o Gymru ac wedi cael budd mawr:
Profiadau Athrawon o Gymru ym Mhatagonia

Sioned Jones
“Dyna’r datblygiad proffesiynol gorau i mi ar y pryd. Ar ôl 2 flynedd yn dysgu Cymraeg i blant yn Nhrelew, des i’n ôl a chael gwaith yn syth yn Ysgol Gymraeg Llundain.” – Sioned Jones, Athrawes yn Ysgol yr Hendre, 2014

Beth Owen
“Roedd y bobol draw mor garedig a phlant yr ysgolion yn annwyl iawn. Mae’n brofiad afreal clywed y Gymraeg ym mhen draw’r byd. Wna i byth bythoedd anghofio fy nghyfnod yn y Wladfa.” – Beth Owen, Athrawes yn Nhrevelin ac Esquel, 2022

Clare Vaughan ac Esyllt Nest Roberts de Lewis
“Mae Cymru a’r Ariannin mor bell ond trwy gyd-ddysgu’r Gymraeg dan ni’n rhannu rhywbeth sydd mor agos at ein calonnau.” – Clare Vaughan, Cydlynydd Academaidd