Clwb Cyfeillion

Eisteddfod Boduan, 2023

Beth am gefnogi’r gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg yn y Wladfa drwy ymuno â Chlwb Cyfeillion Cymru-Ariannin?

Daw incwm rheolaidd i’r Gymdeithas o’r Clwb sy’n ein galluogi i gefnogi mudiadau ac achosion Cymreig yn y Wladfa. Y tâl ymuno yw £10 y flwyddyn ac mae gwobrau o £100, £50 a £25 bedair gwaith y flwyddyn. Os hoffech ymuno, anfonwch e-bost at yr ysgrifennydd: [email protected]