
Eisteddfod Pontypridd, 2024
Mae holl incwm y Gymdeithas yn dod o gyfraniadau ein haelodau er mwyn cefnogi’r cysylltiad rhwng Cymru a’r Wladfa. Un ffordd o gyfrannu yn flynyddol yw trwy ymaelodi â’r Gymdeithas.
Tâl aelodaeth am flwyddyn yw £20.00 ar gyfer pob unigolyn.
Anogwn aelodau i dalu’n uniongyrchol drwy orchymyn banc blynyddol os yn bosib.
Gallwch lenwi’r ffurflen aelodaeth ar-lein drwy’r ddolen isod, neu e-bostio / bostio’r ffurflen i’r trysorydd.
Rhowch hwb i’ch cyfraniad drwy ychwanegu 25c o Rodd Cymorth at bob £1 yr ydych yn ei gyfrannu. Mae Rhodd Cymorth yn cael ei adennill gan yr elusen o’r dreth a dalwch ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol. Er mwyn gallu hawlio Rhodd Cymorth ar eich cyfraniad, mae’n rhaid i’r Gymdeithas gael datganiad yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny, a’ch manylion cyfredol.
Gallwch lenwi’r Datganiad Rhodd Cymorth ar-lein drwy’r ddolen isod, neu e-bostio / bostio’r ffurflen i’r trysorydd.
Os byddwch yn dewis talu mwy na’r tâl aelodaeth gyfredol, bydd y swm ychwanegol yn cael ei ystyried fel rhodd sy’n gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth (os ydych yn drethdalwr yn y DU). Dyma fydd ein dealltwriaeth fel Cymdeithas, oni bai ein bod yn derbyn cyfarwyddyd gwahanol gennych.
Trysorydd Cymdeithas Cymru-Ariannin: [email protected]