Canghennau

Cangen Môn ac Arfon

Cymdeithas Cymru-Ariannin, Cangen Môn ac Arfon ydy enw’r gymdeithas. Fe’i sefydlwyd ym mis Chwefror 1988 mewn cyfarfod yn Festri Penuel, Bangor. Erbyn hyn, gan i Benuel uno â Phendref,  newidwyd yr enw i Emaus. Roedd pedwar ohonom oedd yn mynd i ddosbarth dysgu Sbaeneg wedi bod yn y Wladfa, ac ar ôl pob gwers roeddem yn sgwrsio am ein profiadau yno.

Bangor, Rhagfyr 2023

Un noson, ar ôl dod adre, dyma ddechrau meddwl tybed na allen ni ffurfio cangen o Gymdeithas Cymru-Ariannin ym Mangor. Wedi trafod, roedd y tri arall yn frwdfrydig a dyma wneud rhestr o rai eraill y gwyddem amdanyn nhw allai fod â diddordeb i ymuno â ni.  Bu cysylltu a gosod dyddiad a lle i gyfarfod.  Digwyddodd hynny ar Chwefror 10 1988 yn festri Penuel gyda 14 yn bresennol.  Etholwyd swyddogion a chael dyddiad i’r cyfarfod nesaf. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd y nifer wedi dyblu a daliodd i gynyddu cyn i Covid newid popeth.  Rydym wedi ail ddechrau eleni a chael cyfarfod i drafod y ffordd ymlaen pan benderfynwyd newid amser ein cyfarfodydd i’r prynhawn gan fod llawer ohonom yn ei chael yn anodd codi allan fin nos. Cawsom ginio Gŵyl Dewi ddiwedd Chwefror.

Un o brif amcanion y gangen ydy helpu’r Wladfa yn ôl eu hanghenion hwy a’r peth olaf a wnaethon ni cyn Covid oedd hel arian i gael offer chwarae ar yr iard yn ysgol y Gaiman.  Casglwyd dros £2,000.

Cangen Clwyd

Mae Cangen Clwyd yn cynnwys pobl o siroedd Dinbych, Conwy, Fflint a Wrecsam sydd a chysylltiadau â’r Wladfa, neu â diddordeb ymweld a rhannwn wybodaeth â hwy mewn modd anffurfiol. Mwynhawn gymdeithasu a chroesawu rhai sydd ar ymweliad â’r Hen Wlad a’u tywys o gwmpas.

Cangen y De

Enw’r gangen yw ‘Cangen y De’ ac fe’i sefydlwyd ar y 29ain o Ebrill, 2008.

Ar hyd y blynyddoedd trefnwyd nifer o ddigwyddiadau o bob math, megis darlithoedd gan awduron o Gymru a’r Wladfa; cyngherddau; ambell i ‘asado’ diolch i Benito Jones; sawl noson gyri dros y Nadolig, dathliadau y ‘Reyes’ (ar y 6ed o Ionawr), gwylio ffilmiau megis ‘Poncho Mam-gu’ diolch i Eiry Palfrey a mwy. Cawsom sawl darlith hynod o ddifyr hefyd. Trefnwyd nifer o nosweithiau sgwrsio, noson gwis diolch i Lois Dafydd ac Iwan Madog yn ogystal â sgyrsiau gyda dysgwyr yn y Wladfa ac aelodau’r gangen.

Un peth sy’n fytholwyrdd yng nghyfarfodydd Cangen y De ydy bwced goch Gwilym Roberts! Diolch am garedigrwydd ein haelodau, roedd y casgliad wastad yn caniatáu i ni dalu’r costau a chynnig rhywbeth bach i’n cyfranwyr fel gwerthfawrogiad.

Mae sawl aelod ar draws De Cymru wedi bod mynychu ein cyfarfodydd ar hyd y blynyddoedd, ond er hynny trigolion Caerdydd yw’r mwyafrif fel rheol.  Wrth gwrs, bu’n rhaid troi at gyfarfodydd a digwyddiadau rhithiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mi roedd hyn wedi cynnig y cyfle i ni drefnu digwyddiadau’n fyw gyda thrigolion y Wladfa hefyd.

Fel rheol, cangen y de sy’n gyfrifol am stondin y Gymdeithas yn Eisteddfodau Cenedlaethol yn Ne Cymru.

Cangen y De, Caerdydd

Pwced goch enwog Gwilym Roberts

Cangen Sir Gâr

Sefydlwyd Cangen Sir Gâr ym mis Gorffennaf 2019 gan Eluned ac Isaías Grandis gyda’r cyfarfod cyntaf yn y Butchers, Llanddarog. Ers hynny, mae’r gangen wedi mynd o nerth i nerth gan drefnu digwyddiadau ac ymweliadau cyson yn ardal Caerfyrddin a Llandeilo megis

*cyflwyniadau difyr gan Clare Vaughan, Dr Iwan Wyn Rees, Eluned Jones, Catrin Duncan a Megan Samuel

*traddodiadau’r Nadolig yn rhithiol yng nghwmni Luned González a Margarita Green a dathlu Gŵyl Ddewi gyda ffrindiau o’r Wladfa

*cwis, gwibdaith Nel Fach y Bwcs a digon o fwyd ‘a la canasta’!

Trefnwyd Gŵyl y Glaniad gan y gangen yn 2023 gan groesawu aelodau Cymdeithas Cymru-Ariannin atom yn Llanarthne.

Cangen Sir Gâr

Cangen Sir Gâr

Pwyllgor Gefeillio Aberteifi-Trevelin

Sefydlwyd y pwyllgor gefeillio yn y flwyddyn 2005 i hybu perthynas agosach rhyngom a’n cefndryd yn Nhrevelin wrth droed yr Andes. Yng nghwrs y blynyddoedd rydym wedi cael yr hyfrydwch o groesawu amryw o’r Ariannin i’n plith ac wedi cynnal boreau coffi i godi ymwybyddiaeth yn lleol o’r hyn sy’n digwydd ymhlith Cymry Patagonia. Mae’r boreau coffi wedi bod yn llwyddiannus iawn ac ymateb calonogol wedi bod bob tro a’r coffrau ariannol wedi elw yn sylweddol o’r herwydd. Cynhaliwyd Gŵyl y Glaniad yn Aberteifi tair gwaith ers sefydlu’r pwyllgor gefeillio.

Bu’n fraint i ni gael cyfrannu at goffrau Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015 a chefnogi apêl Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Mersi i osod cofeb yn Lerpwl i gofio am ddewrder arloeswyr mintai’r Mimosa yn gadael dociau Lerpwl a sefydlu yn yr Ariannin yn 1865.

Ein blaenoriaeth ar hyd y blynyddoedd yw cefnogi Ysgol y Cwm, Trevelin.

Plac y gefeillio yn Aberteifi.

Digwyddiad i gasglu arian yn Aberteifi

Cysylltu â Changen