Cystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Cynhelir cystadleuaeth lenyddol arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn i’r rhai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy’n dal i fyw yn yr Ariannin.

Mae’r testun i’w gael yn y rhestr testunau swyddogol ar wefan yr Eisteddfod,  a dyddiad cau’r gystadleuaeth yw Ebrill 1af.  Gall unrhyw un o’r Wladfa sydd am gystadlu gyflwyno eu gwaith trwy law ysgrifennydd y Gymdeithas er mwyn eu cofrestru – dylid gwneud erbyn Mawrth 30ain.

Mae’r Gymdeithas yn ddiolchgar i deulu Shân Emlyn sydd wedi noddi’r wobr ers sawl blwyddyn.

Alwen Green yn derbyn ei gwobr gan Eluned Jones