Adnoddau Peniarth

Llyfr ‘Dewch i Deithio – Patagonia’

Dewch i Deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd ac ardaloedd mewn modd deniadol, hudol a diddorol.

Beth ydy’r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia? Pa fath o ddiod ydy ‘mate’?

Mae’r atebion – a llawer mwy, rhwng tudalennau’r llyfr apelgar hwn.

Dewch i Deithio Patagonia: https://siop.peniarth.cymru/products/9781783903559

Dewch i Deithio a Dysgu Sbaeneg Patagonia

Mae Canolfan Peniarth, un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysgol Cymraeg a dwyieithiog yng Nghymru sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi creu adnoddau arloesol i ddysgu Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg i blant ysgolion cynradd.

Dyma’r pecyn cyntaf o’i fath i gynorthwyo ysgolion cynradd i gyflwyno iaith ryngwladol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r pecyn yn seiliedig ar lyfr ‘Patagonia’ o’r gyfres boblogaidd ‘Dewch i Deithio’. Crëwyd y gyfres ‘Dewch i Deithio’ yn wreiddiol er mwyn cyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd ac ardaloedd i blant mewn modd deniadol, hudol a diddorol.

Mae’r adnodd yn ymateb i ofynion Cwricwlwm i Gymru i gyflwyno ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd. Yn fuan iawn sylweddolwyd bod yna ddigon o ddarpariaeth ar gael drwy gyfrwng y Saesneg, ond prin iawn oedd ar gael i gynorthwyo’r sector cyfrwng Cymraeg yn y maes hwn.

Mae’r pecyn sy’n cynnwys hyfforddiant ac adnoddau digidol, wedi ei greu’n benodol i alluogi ymarferwyr sydd ddim yn arbenigo mewn dysgu iaith dramor i gyflwyno Sbaeneg Patagonia yn hyderus i ddysgwyr y sector cynradd cyfrwng Cymraeg.

Mae’r pecyn yn cynnwys sesiwn hyfforddiant cychwynnol, deunyddiau cyflawn ar gyfer 7 uned o waith, a sgript ar gyfer perfformiad Sbaeneg y gallai’r plant ei berfformio ar ddiwedd yr unedau. Yn yr unedau, bydd y plant yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o batrymau Sbaeneg syml gan Min a Mei – cymeriadau’r gyfres boblogaidd ‘Dewch i Deithio’. A thrwy gyfrwng deunydd aml-gyfrwng amrywiol a deniadol, bydd hefyd yn cyflwyno’r disgyblion i gyfoedion ym mhen draw’r byd yn Ysgol y Cwm, yr Andes a’u diwylliant cyfoethog.

Peniarth yn creu adnoddau arloesol i ddysgu Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg i blant | Peniarth

Llyfr ‘Mêts Maesllan 2 – Patagonia’

Mae’r gyfres boblogaidd Mêts Maesllan yn parhau gyda chyfres newydd o lyfrau. Mae’r gyfres ar gael i gynorthwyo dysgwyr ar Gamau Cynnydd 2-3 sydd ag anawsterau dysgu penodol i feistroli llythrennedd yn y Gymraeg.

Mae Tim wedi mynd i Batagonia ar daith gyda’r Urdd, ac mae’n anfon dyddiadur fideo at y Mêts. Trwy gyfrwng sgript y dyddiadur fideo cawn ddysgu am ryfeddodau’r wlad ac am y traddodiadau Cymreig sy’n fyw yno o hyd.

Mêts Maesllan 2: Crwydro Patagonia