Gŵyl y Glaniad

Hysbyseb ar-lein 2024

Dethlir Gŵyl y Glaniad yn flynyddol ar Orffennaf yr 28ain, sef y dyddiad y glaniodd y Cymry cyntaf ym Mhorth Madryn ar fwrdd llong y Mimosa nôl ym 1865. Mae’n ŵyl gyhoeddus yn Chubut yn yr Ariannin, a bydd pobl yn mynd i gael te Cymreig mewn capeli a neuaddau a byddant yn cynnal cyngherddau i ddathlu’r digwyddiad. Caiff yr ŵyl ei threfnu yng Nghymru gan Gymdeithas Cymru – Ariannin, a hynny ar y dydd Sadwrn agosaf i’r 28ain o Orffennaf. Yn y Bala y dethlid fel arfer ond bu rhai yn Aberystwyth hefyd. Dyma restr o 2005 ymlaen.

Gŵyl y Glaniad yng Nghymru:

  • 2005    Y Bala
  • 2006    Merthyr Tudful
  • 2007    Aberystwyth
  • 2008    Y Bala
  • 2009    Aberteifi
  • 2010    Bangor
  • 2011    Sain Ffagan, Caerdydd
  • 2012    Dinbych
  • 2013    Aberteifi
  • 2014    Y Bala
  • 2015    Caernarfon
  • 2016    Aberystwyth
  • 2017    Aberteifi
  • 2018    Y Bala
  • 2019    Llanbedr Pont Steffan
  • 2020    Nefyn – canslwyd
  • 2021    Trwy gyfrwng ‘zoom’
  • 2022    Nefyn
  • 2023    Llanarthne
  • 2024    Aberteifi
  • 2025    Caerdydd

Clipiau fideo o Gymru ac o’r Ariannin:

Gaiman, 2015

Ysgol y Cwm, Trevelin 2016

Y Bala, Cymru, 2018

Gŵyl y Glaniad, Llambed, 2019

Dathlu ym Muenos Aires, 2019

Gaiman, 2020

Ysgol yr Hendre, Trelew, 2021

Ysgol y Cwm, Trevelin, 2021

Elvira Austin, 2021

Ysgol Gymraeg y Gaiman, 2022

Nefyn, Cymru, 2022